
Cymru yn erbyn Lloegr - dyma’r math o wrthdaro sy’n tynnu dŵr o’r dannedd, ac yfory mae'n dod gyda thro arbennig iawn.
Mae clwb pêl-droed Cardiff Bay Warriors - tîm sy'n dod yn bennaf o gymuned Somali Cymru - drwodd i rownd derfynol y Somali British Champions League sy'n cael ei chynnal yfory (ddydd Sul, Awst 7), yn erbyn Leicester Athletico.
Y cwpan yw'r gystadleuaeth fwyaf yn y DG ar gyfer timau cymunedol y gwasgariad Somali a bydd y tîm buddugol yn cael ei goroni fel pencampwyr y DG.
Cwblhaodd Cardiff Bay Warriors gymalau'r grŵp a mynd ymlaen wedyn i ennill rownd yr wyth olaf ac yna'r rowndiau cynderfynol mewn modd trawiadol.
Yn yr ail gymal i enillon nhw o 9-8 ar ôl bod ar ei hôl hi o ddwy gôl yn y cymal cyntaf wrth golli o 5-3 i dîm o ddwyrain Llundain.
Mae'r Warriors, yr unig dîm o Gymru yn y gystadleuaeth, wedi dod at ei gilydd fel tîm i chwarae mewn cystadlaethau ar draws y DG a Ewrop.
SOMALI BRITISH CHAMPIONS LEAGUE FINAL@WarriorsCardiff clash with @LeicAtleticofc in the final of the #SBCL 2021/22. Two clubs with a long history in Somali British football will fight for the prestigious trophy.
— Somali British Champions League (@SomaliBritishCL) July 23, 2022
Sponsors:@Fans4Diversity @typo_uk1
Poster by: ba5eline pic.twitter.com/kugd5qdrGh
Dywedodd trefnydd cymunedol Citizens Cymru, Ali Abdi: "Mae hwn yn achlysur gwych i Gaerdydd fel dinas a Chymru fel gwlad a dyna pam rwyf am ennyn cymaint o sylw â phosib.
"Mae'r gymuned yn aml yn cael ei hanwybyddu neu'n anweledig mewn sawl rhan o'n cymdeithas yng Nghymru ond trwy bŵer chwaraeon (pêl-droed) mae ganddynt y potensial i roi eu cymuned, dinas a gwlad ar y map!"
Bydd y gic gyntaf yn Hertingfordbury Park, Hertford SG13 8EZ, am 4pm yfory (dydd Sul, Awst 7). Gallwch gysylltu â'r clwb ar 04794 661712.
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here