MAE'R dyfodol yn edrych yn ddisglair ym Mhentrecelyn, wrth i Fudiad Meithrin agor yn swyddogol Cylch Meithrin newydd sbon yn Ysgol Pentrecelyn.

Mewn diwrnod agored arbennig, daeth prif weithredwr y mudiad, Dr Gwenllian Lansdown Davies, draw i siarad gyda’r cymeriad hoffus, Dewin, yn piciad draw i ddiddanu’r plant bach.

Braf hefyd oedd croesawu arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, Hugh Evans, a’r cyfarwyddwr addysg, Geraint Davies, i’r digwyddiad.

Ar agor rhwng 11.30yb a 3.15yp ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol, mae Cylch Meithrin Ysgol Pentrecelyn yn rhan o gynllun ‘Sefydlu a Symud’ Mudiad Meithrin.

Yn ystod tair blynedd gyntaf y cynllun, sefydlwyd 43 Cylch Meithrin a Chylch Ti a Fi mewn ardaloedd daearyddol o Gymru ble nad oes Cylch Meithrin yn bodoli. Hyd yma, mae 12 Cylch Meithrin newydd ar waith fel rhan o bedwaredd flwyddyn y cynllun.

Jemma Williams yw arweinydd newydd Cylch Meithrin Ysgol Pentrecelyn. Mae’n fam i ddau o blant ac mae ganddi flynyddoedd o brofiad o weithio fel cynorthwyydd dosbarth mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd Jemma: “Dwi wrth fy modd yn gweithio efo plant ac yn falch o’r cyfle i wneud hyn trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at fy swydd newydd fel Arweinydd Cylch Meithrin Ysgol Pentrecelyn.

"Mae’r cylch yn cynnig gofal drwy gyfrwng y Gymraeg i blant dros ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol.”

Mae’r cynllun Sefydlu a Symud yn deillio o ymateb Mudiad Meithrin i Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr, sy’n cydnabod pwysigrwydd a dylanwad y blynyddoedd cynnar i greu siaradwyr Cymraeg, ac sy’n cyd-fynd â’r weledigaeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae bron i 2,000 o staff profiadol a chymwys yn gweithio mewn Cylchoedd Meithrin yng Nghymru.

Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, prif weithredwr Mudiad Meithrin: “Ein huchelgais yw galluogi pob plentyn yng Nghymru i allu manteisio ar wasanaeth gofal plant ac addysg gynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae cryn nifer o fylchau daearyddol ar hyd a lled Cymru felly mae gweledigaeth Cymraeg 2050 yn galluogi’r mudiad, ar y cyd â chymunedau ar lawr gwlad, i weithio tuag at y nod o ddiwallu’r angen a chreu’r galw am ofal cyfrwng Cymraeg.”