Daeth dros fil o bobol ynghyd yn Aberystwyth ddoe ar gyfer rali a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

 

Hwn oedd y diweddaraf mewn cyfres o ralïau sydd wedi ei drefnu gan y Gymdeithas i dynnu sylw at yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau iaith Cymraeg ar draws y wlad.

Yn y rali galwodd cadeirydd y Gymdeithas, Mabli Siriol, ar Lywodraeth Cymru i weithredu deddf eiddo er mwyn amddiffyn cadarnleoedd traddodiadol Cymreig.

 

Mae Cymdeithas yr Iaith yn credu fod cymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif gyfrwng yn hollbwysig er mwyn sicrhau dyfodol i’r Gymraeg. A bod angen ystyried tai fel cartrefi ac nid fel adnodd economaidd, ag y dylid sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad at y farchnad dai, ac y dylai’r farchnad dai adlewyrchu cyflogau lleol.

Mae pobol ifanc yn cael ei gorfodi o'i cymunedau (llun Catrin MS Davies)

Byddai Deddf Eiddo yn rhoi rheidrwydd ar awdurdodau lleol i:

•             asesu’r angen lleol am dai

•             sicrhau bod tai ac eiddo ar gael i bobl am rent teg

•             roi cymorth i brynwyr tro cyntaf, ac i gynnig cynlluniau rhan-ddeiliadaeth

•             roi blaenoriaeth i bobl leol yn y farchnad dai

•             gynllunio ar gyfer y gymuned, ac ar sail barn y gymuned

•             ail-asesu caniatâd cynllunio a roddwyd yn y gorffennol.

Maent hefyd yn credu bod angen ffurfioli’r drefn o asesu effaith datblygiadau tai ar yr iaith Gymraeg.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad nôl ym mis Tachwedd, sydd yn cau ar yr 22ain o Chwefror, er mwyn datblygu Cynllun Tai Cymunedol Cymraeg.

Wrth gyflwyno’r ymgynghoriad dywedodd Jeremy Miles AS, gweinidog dros y Gymraeg ac Addysg: “Mae niferoedd uchel o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr wedi ysgogi teimladau cryf mewn rhai cymunedau yng Nghymru ers cryn dipyn o flynyddoedd. Yn y cymunedau hyn, yn aml, ceir ymdeimlad o anghyfiawnder bod pobl yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai lleol gan y rheiny sy’n prynu ail gartrefi neu gartrefi i’w gosod fel llety gwyliau tymor byr. Rydym ni’n benderfynol o fynd i’r afael â’r mater hwn.”

Galw an "hawl i fyw yn lleol" (llun Catrin MS Davies)

Fe ychwanegodd: “Yn aml, lleolir ail gartrefi yn y cymunedau Cymraeg ac o’u cwmpas, a gall hyn arwain at batrymau perchenogaeth tai sy’n effeithio’n andwyol ar ddefnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau sy’n greiddiol i ffyniant hirdymor ein hiaith. Mae ail gartrefi, ynghyd ag amrywiaeth o ffactorau ehangach eraill, yn effeithio ar fforddiadwyedd ac argaeledd tai i bobl leol ac yn codi prisiau yn y farchnad dai lleol, weithiau yn ddramatig.”

I gloi fe ddywedodd: “Nid yw’n anodd gweld y gall patrwm lle bydd pobl ifanc sy’n siarad Cymraeg yn benodol yn gadael eu cymunedau er mwyn dod o hyd i dai fforddiadwy mewn ardaloedd eraill yn gallu bygwth dyfodol yr iaith yn y cymunedau y maent yn eu gadael.”