Mudiad Meithrin yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r her gweithlu o fewn y sector blynyddoedd cynnar.

 

Mewn dogfen a elwir ‘Grym ein Gweithlu’, mae Mudiad Meithrin yn cynnig dadansoddiad lefel-uchel o natur yr her ac yn sbarduno sgwrs ar y newidiadau sydd eu hangen er mwyn denu unigolion i weithio yn y sector gofal plant.

 

Daw’r cyhoeddiad 60 mlynedd ers darlith Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis.  

 

Mae Mudiad Meithrin yn rhoi awgrymiadau ar sut gall Llywodraeth Cymru weithredu ym meysydd polisi, cyllid a chyflogadwyedd, hybu a hyrwyddo, cymwysterau a hyfforddiant.

 

Wrth gyflwyno ‘Grym ein Gweithlu’ i’r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles, meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

 

“Gwyddom o brofiad ac o edrych ar ddata mai Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd Cymraeg yw’n prif ffordd fel cenedl o ddechrau plant ar eu taith at ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus gan fod y mwyafrif yn symud ymlaen i ysgolion Cymraeg. Mae sicrhau gweithlu cymwys yn hollbwysig er mwyn cyfrannu at yr agenda hon ac er mwyn creu’r galw trwy sefydlu mwy o Gylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd Cymraeg.”

Adroddiad newydd gan Mudiad Meithrin yn amlygu'r heriau recriwtio y sector blynyddoedd cynnar.Dr Gwenllian Lansdown Davies, yn cyflwyno copi cyntaf o ddogfen polisi Mudiad Meithrin ‘Grym ein Gweithlu’ i Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. (Llun: Mudiad Meithrin)

Yn ôl Mudiad Meithrin mae’n gwbl berthnasol fod Llywodraeth Cymru a phawb sy’n ymddiddori ym maes polisi’r Gymraeg yn rhoi sylw i’r maes llafur hwn. Heb weithlu Gofal Plant, nid oes gobaith i ni wireddu cynlluniau pwysig ac uchelgeisiol Cymru ar gyfer creu siaradwyr Cymraeg newydd i’r dyfodol.

 

Dywedodd Ioan Matthews. Prif Weithredwr Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

 

“Bydd cynllunio'r gweithlu a sicrhau bod cyflenwad digonol o staff i gynnal darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector Gofal Plant a Chwarae yn allweddol o ran ymgyrraedd tuag at nodau Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru. Am y rheswm hwnnw, mae'r ddogfen hon i'w chroesawu'n fawr a bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn benodol wrth weithio gyda cholegau addysg bellach i gynyddu eu darpariaeth i ddysgwyr yn y meysydd hyn, a'u galluogi i gymhwyso fel ymarferwyr, yn edrych ymlaen at gyfrannu'n ymarferol at y gwaith.”

 

Mae’r adroddiad “Grym i’r Gweithlu” yn nodi taw cyfran fach - 4.4% - o'r rhai sy'n hyfforddi o'r newydd yn y maes sydd yn derbyn eu hyfforddiant drwy'r Gymraeg.

 

Mae'r Llywodraeth yn cefnogi agor 60 yn rhagor o Gylchoedd Meithrin yn ystod tymor y Senedd hon. Bydd ehangu'r cynnig yma ledled Cymru yn creu her sylweddol ychwanegol o ran canfod gweithwyr ac er mwyn cwrdd â'r heriau a'r amcanion hyn, fe amcangyfrifir bydd angen cymhwyso hyd at 300 o staff newydd y flwyddyn, sef 1500 yn ystod tymor y Senedd hon.